Carla Forfar
Cyfraith teulu, trosedd a phrynu a gwerthu eiddo ydyw prif feysydd ymarfer Carla. Mae hi yn arwain ein adrannau teulu a throsedd. Mae ar baneli cyfreithwyr ar ddyletswydd yng ngorsaf yr heddlu a’r llys ynadon. Mae’n gweithio o swyddfeydd Penmaenmawr a Llanfairfechan.
Yn ei hamser hamdden mae Carla yn mwynhau golff a theatr cerddorol.
carla.forfar@cartervincent.co.uk
Iestyn Harris
Mae Iestyn yn arwain ein hadrannau cleient preifat a thrawsgludo. Yn ogystal mae’n gweithredu ym meysydd cyfreithia sifil a chyflogaeth. Mae’n aelod o Gyfreithwyr ar gyfer yr Henoed, Cymdeithas Cyfraith Amaethyddol ac aelod llawn o Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (TEP). Yn ogystal â gweithredu ar ran unigolion a busnesau mae Iestyn yn gweithredu ar ran nifer elusennau a mentrau cymunedol. Mae Iestyn yn gweithio o swyddfeydd Bangor a Llanfairfechan.
Mae ei ddiddordebau hamdden yn cynnwys cerddoriaeth a gweithgareddau awyr agored, gan gynnwys rhedeg a beicio.
iestyn.harris@cartervincent.co.uk
Hugh Davis
Prif feysydd ymarfer Hugh ydyw cyfraith eiddo, cyfrethia sifil ac ewyllysau a gweinyddu ystadau. Mae hefyd yn delio â materion ym meysydd eiddo deallusol a methdalaeth. Mae Hugh yn mwynhau hwylio a gynt fu’n fynyddwr brwd; bu’n aelod o dîm achub mynydd Llanberis am bron i 40 mlynedd.
Mae’n Notari Cyhoeddus.
hugh.davis@cartervincent.co.uk
Solicitor and Notary Public
Jade Flanagan
Ymunodd Jade â Carter Vincent fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yn dilyn gradd dosbarth cyntaf yn y gyfraith o Brifysgol Bangor. Mae ganddi ddiddordeb yng nghyfraith teulu ac mae hefyd un gweithredi ym meysydd prynu a gwerthu eiddo, ewyllysiau a gweinyddu ystadau.
Mae Jade yn aelod o gymdeithas ymarferwyr cyfraith teulu, Resolution, ac mae wedi cymhywso fel cyfryngydd teulu trwy Resolution.
Yn ei hamser hamdden mae Jade yn mwynhau cadw yn heini a phobi, gan gynnwys pobi cacennau i’r swyddfa!
Jennifer Brooksbank
Ymunodd Jennifer a Carter Vincent ym mis Mawrth 2018 ac mae’n gweithio yn bennaf o swyddfa Penmaenmawr. Mae wedi gweithio yn y gorffenol i gwmni cyfreithwyr cenedlaethol yng Nghanolbarth Lloegr lle bu’n ymdrin a materion cyfraith yswiriant. Ei phrif meysydd ymarfer ydyw gwaith Cleientiaid Preifat a Chyfreitha Sifil.
Mae Jennifer yn aelod frwd o Gôr y Gwragedd Milwrol.
Aron Gwyn Williams
Graddiodd Aron hefo graddau mewn Hanes a’r Gyfraith (dosbarth gyntaf) o Brifysgol Bangor cyn cwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a gradd meistr yn y gyfraith, busnes a rheolaeth o Brifysgol y Gyfraith, yng Nghaer.
Cyn cychwyn fel Cyfreithiwr dan hyfforddiant bu’n gweithio fel cynorthwyydd i gwmni cyfreithwyr rhyngwladol yng Nghaerdydd, lle bu’n ymdrin ag amrywiaeth o waith masnachol. Wedi cwblhau ei gytundeb hyfforddiant hefo Carter Vincent a chymhwyso fel cyfreithiwr mae Aron yn gweithredu ym meysydd Cyfraith Eiddo. Profiant ac Ewyllysiau, Teulu a Chyfreithia Sifil.
Mae Aron yn mwynhau gwylio pêl-droed a rygbi, a chymdeithasu, yn ei amser hamdden.
Mae Aron yn Notari Cyhoeddus.
Miriam Rhodes-Leader, Cyfreithwraig dan hyfforddiant
Graddiodd Miriam mewn Hanes a Saesneg o Brifysgol Caerhirfryn cyn astudio’r Gyfraith ac ennill gradd meistr yn y Gyfraith ym Mhrifysgol y Gyfraith.
Gweithiodd Miriam fel para-cyfreithiwr mewn amryw o gwmnïau cyfreithiol yng Ngogledd Cymru, gan ennill profiad mewn sawl maes o’r gyfraith cyn cychwyn fel cyfreithwraig dan hyfforddiant hefo Carter Vincent LLP yn 2023
Mae Miriam yn mwynhau marchogaeth gan gynnwys cystadlu hefo’i cheffyl, a chymdeithasau yn ei hamser hamdden. Hefyd mae’n chwarae gitâr bas mewn band jazz.